Skip to main content

Blwyddyn golau Cynnwys Gwerth rhifol | Pellterau mewn blynyddoedd golau | Cyfeiriadau | Gweler hefyd | LlywioThe Sun-Earth ConnectionVoyager Spacecraft Enters Solar System's Final FrontierCosmic Distance Scales - The Nearest StarProxima Centauri (Gliese 551)A Geometric Determination of the Distance to the Galactic CenterThe Distance to the Galactic Center

Unedau mesur seryddol


uned mesurhydgolaugwactodblwyddynUndeb Seryddol Rhyngwladolflwyddyn Juliancyfundrefn heulogCysawd yr Haulsêrbreichiau troellogglysterau globiwlarparsecgalaethparsecgalaethauchlysterau galaethauparsecbydysawdquasarsMur Mawrkilomedrcyflymder golau












Blwyddyn golau




Oddi ar Wicipedia






Jump to navigation
Jump to search


Mae blwyddyn golau (symbol rhyngwladol: ly, seiliedig ar yr enw Saesneg, light year) yn uned mesur o hyd, yn benodol y pellter y mae golau yn teithio mewn gwactod (vacuum) mewn blwyddyn. Er nad oes penderfyniad awdurdodol ar ba flwyddyn galendraidd i'w defnyddio, mae'r Undeb Seryddol Rhyngwladol (IAU) yn argymell y flwyddyn Julian.




Cynnwys





  • 1 Gwerth rhifol


  • 2 Pellterau mewn blynyddoedd golau


  • 3 Cyfeiriadau


  • 4 Gweler hefyd




Gwerth rhifol |


Mae un flwyddyn golau yn cyfateb i:


  • 9,460,730,472,580.8 km (tua 9.461 Pm)

  • tua 5,879,000,000,000 milltir statudol

  • tua 63,240 uned seryddol

  • tua 0.3066 parsec


Pellterau mewn blynyddoedd golau |


Mae pellterau a fesurir mewn 'ffracsiynau blwyddyn golau' yn cael eu defnyddio ar gyfer gwrthrychau o fewn cyfundrefn heulog fel ein Cysawd yr Haul ni.


Mae pellterau a fesurir mewn 'blynyddoedd golau' yn cynnwys y pellterau rhwng sêr agos, fel y rhai mewn breichiau troellog neu glysterau globiwlar.


Defnyddir y 'cilo-flwyddyn golau' (kilolight-year; "kly"), sy'n 1,000 blwyddyn golau, neu tua 307 parsec, i fesur pellterau rhwng rhannau o'r un galaeth yn bennaf.


Mae un 'mega-flwyddyn golau' (megalight-year; "Mly"), yn un filiwn blwyddyn golau, neu tua 306,600 parsec. Defnyddir mega-flynyddoedd golau fel rheol i fesur pellteroedd rhwng galaethau cymdogol a chlysterau galaethau.


Mae un 'giga-flwyddyn golau' (gigalight-year, "Gly"), yn un o'r mesurau mwyaf sy'n bodoli: un biliwn (1000000000) blwyddyn golau. Mae un giga-flwyddyn golau yn o gwmpas 306.6 miliwn parsec neu, yn fras, un rhan mewn 13 (1/13) o'r pellter i orwel y bydysawd gweladwy. Fel rheol defnyddir unedau giga-flwyddyn golau i mesur y pellter i wrthrychau uwchalaethol, fel clysterau o quasars neu'r Mur Mawr.



































































Rhestr urddau magnitiwd hyd
Ffactor (ly)
Gwerth
Eitem
10−9


40.4 e-9 ly
Mae goleuni'r haul a adlewyrchir gan wyneb y Lleuad yn cymryd 1.2-1.3 eiliad i gyrraedd wyneb y Ddaear.

(Mae'r Lleuad tua 384400 kilomedr o'r Ddaear, ar gyfartaledd. 384400 km ÷ 300000 km/eiliad (tua cyflymder golau) ≈ 1.28 eiliad)


10−6


15.8 e-6 ly
Un uned seryddol (AU) (y pellter o'r Haul i'r Ddaear). Mae'n cymryd tua 8.31 munud i olau deithio'r pellter hwn.[1]
10−3


1.5 e-3 ly
Roedd Voyager 1, y prôb mwyaf pell hyd yn hyn, tua 13 oriau golau i ffwrdd o'r Ddaear ym Medi 2004. Cymerodd Voyager 27 blwyddyn i deithio'r pellter hynny.[2]
100


2 e0 ly
Mae'r Cwmwl Oort tua 2 flwyddyn golau mewn diamedr.

4.21 e0 ly
Y seren agosaf (heblaw'r Haul), yw Proxima Centauri sydd o gwmpas 4.22 blwyddyn golau i ffwrdd.[3][4]
103


26 e3 ly
Mae canol galactig ein galaeth, y Llwybr Llaethog, tua 8 kiloparsec i ffwrdd.[5][6]

100 e3 ly
Lled ein Galaeth ni yw tua 100,000 blwyddyn golau.
106


2.5 e6 ly
Mae Galaeth Andromeda tua 2.5 mega-flwyddyn golau i ffwrdd.

3.14 e6 ly

Galaeth Triangulum (M33), ar 3.14 mega-flwyddyn golau o bellter, yw'r gwrthrych mwyaf pell i ffwrdd y gellir ei weld â'r llygaid.

59 e6 ly
Mae'r clwster galaethau mawr agosaf, Clwster Virgo, tua 59 mega-flwyddyn golau i ffwrdd.

150 e6 - 250 e6 ly
Mae'r Atynydd Mawr yn gorwedd ar bellter o rwng 150 a 250 mega-flwyddyn golau i ffwrdd.
109


1 e9 ly
Amcangyfrir fod Mur Mawr Sloan (ni ddylid ei gymysgu â'r Mur Mawr cyffelyb) tua 1 giga-flwyddyn golau i ffwrdd.

46.5 e9 ly
Mae'r pellter cydsymudol o'r Ddaear i ymyl y bydysawd gweladwy yn mesur tua 46.5 giga-flwyddyn golau mewn unrhyw un cyfeiriad; hwn yw radiws cydsymudol y Bydysawd gweladwy.


Cyfeiriadau |




  1. Prifysgol Gorllewin Ontario The Sun-Earth Connection


  2. Cyhoeddiad gwasg NASA (05-131) 2005-05-24: Voyager Spacecraft Enters Solar System's Final Frontier


  3. NASA: Cosmic Distance Scales - The Nearest Star


  4. Proxima Centauri (Gliese 551), Encyclopedia of Astrobiology, Astronomy, and Spaceflight


  5. F. Eisenhauer, et al., "A Geometric Determination of the Distance to the Galactic Center" (pdf, 93KB), Astrophysical Journal 597 (2003) L121-L124


  6. McNamara, D. H., et al., "The Distance to the Galactic Center" (pdf, 298KB), The Publications of the Astronomical Society of the Pacific, 112 (2000), pp. 202–216.



Gweler hefyd |


  • Strwythur graddfa fawr y cosmos
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: cilo-flwyddyn golau, mega-flwyddyn golau, giga-flwyddyn golau o'r Saesneg "kilolight-year, megalight-year, gigalight-year". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.



Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Blwyddyn_golau&oldid=4357789"










Llywio

























(window.RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgPageParseReport":"limitreport":"cputime":"0.052","walltime":"0.063","ppvisitednodes":"value":170,"limit":1000000,"ppgeneratednodes":"value":0,"limit":1500000,"postexpandincludesize":"value":600,"limit":2097152,"templateargumentsize":"value":118,"limit":2097152,"expansiondepth":"value":4,"limit":40,"expensivefunctioncount":"value":0,"limit":500,"unstrip-depth":"value":0,"limit":20,"unstrip-size":"value":2726,"limit":5000000,"entityaccesscount":"value":0,"limit":400,"timingprofile":["100.00% 11.665 1 -total"," 81.37% 9.492 1 Nodyn:Cyfeiriadau"," 17.77% 2.073 1 Nodyn:Bathu_termau"],"cachereport":"origin":"mw1328","timestamp":"20190319125453","ttl":2592000,"transientcontent":false);mw.config.set("wgBackendResponseTime":137,"wgHostname":"mw1270"););

Popular posts from this blog

Wikipedia:Contact us Navigation menu Navigation menuLeave a Reply Cancel reply Post navigationRecent PostsRecent CommentsArchivesCategoriesMeta

Farafra Inhaltsverzeichnis Geschichte | Badr-Museum Farafra | Nationalpark Weiße Wüste (as-Sahra al-baida) | Literatur | Weblinks | Navigationsmenü27° 3′ N, 27° 58′ OCommons: Farafra

Tórshavn Kliima | Partnerstääden | Luke uk diar | Nawigatsjuun62° 1′ N, 6° 46′ W62° 1′ 0″ N, 6° 46′ 0″ WWMOTórshavn